Cofnodion cryno - Bwrdd Taliadau


Lleoliad: Hybrid – Digidol/Ystafell Gynadledda A

Dyddiad: Dydd Iau 12 Hydref 2023

Amser: 9.00 – 14.40


IRB(06-23)

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Bwrdd:

Dr Elizabeth Haywood (Cadeirydd)

Syr David Hanson

Michael Redhouse

Y Fonesig Jane Roberts

Hugh Widdis 

Ysgrifenyddiaeth:

Daniel Hurford, Clerc

Huw Gapper, Ail Glerc

Martha Da Gama Howells, Ail Glerc

Natasha Davies, Uwch-ymchwilydd

Beth Hales, Dirprwy Glerc

Ruth Hatton, Dirprwy Glerc

Megan Jones, Swyddog Cymorth i'r Bwrdd 

Swyddogion yn bresennol:

Anna Daniel, Uwch-gynghorydd i'r Bwrdd Taliadau, Pennaeth Trawsnewid Strategol

Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol

Kate Rabaiotti, Cynghorydd Cyfreithiol i'r Bwrdd

Craig Griffiths, Pennaeth Cymorth Busnes ac Ymgysylltu â’r Aelodau

Martin Jennings, Arweinydd Tîm Ymchwil, Uned Craffu Ariannol

Lisa Bowkett, Pennaeth Cyllid Dros Dro

Donna Davies, Pennaeth Pensiynau

Eraill a wahoddwyd:

Memet Pekacar, Actiwari Cynllun Pensiwn yr Aelodau, Adran Actiwari’r Llywodraeth 

 

<AI1>

1         Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.10)

§    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ymunodd Hugh Widdis a Mike Redhouse yn rhithwir.

§    Soniodd y Cadeirydd am y cyfarfodydd a gynhaliwyd â’r Penaethiaid Staff ac Aelodau o’r Senedd ar 11 Hydref, a’r adborth cadarnhaol a gafwyd gan y rhai a oedd yn bresennol.

§    Rhoddodd Anna Daniel (Uwch-gynghorydd i'r Bwrdd) ddiweddariad ar y Bil Diwygio’r Senedd.

§    Rhoddodd Daniel Hurford (Clerc i’r Bwrdd) ddiweddariad ar gyfarfod cyntaf y rhwydwaith ‘Cross-UK Network’ a gynhaliwyd ym mis Medi. Grŵp yw’r ‘Cross-UK Network’ sy’n cynnwys swyddogion o’r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA), Comisiwn Cynulliad Gogledd Iwerddon (NIAC), Comisiwn y Senedd a Chorfforaeth Seneddol yr Alban (SPCB).

§    Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf.

Cam i’w gymryd:

§    Cyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf.

 

</AI1>

<AI2>

2         Ailwerthusiad Adran Actiwari'r Llywodraeth (GAD) o gyfraniadau i Gynllun Pensiwn yr Aelodau (9.10 - 9.30)

§    Croesawodd y Bwrdd Memet Pekacar (Actiwari Cynllun Pensiwn yr Aelodau, Adran Actiwari’r Llywodraeth) i drafod y prisiant diweddar o Gynllun Pensiwn yr Aelodau a’r opsiynau i’w trafod gan y Bwrdd o ran cyfraniadau at y Cynllun.

§    Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid am effaith debygol 36 o Aelodau o’r Senedd ychwanegol ar y Cynllun Pensiwn, o fod wedi trafod hyn gydag Actiwari’r Cynllun.

Camau i’w cymryd:

§    Roedd y Bwrdd yn fodlon ar gynnig Adran Actiwari'r Llywodraeth y dylai cyfradd gyfrannu y Comisiwn at y Cynllun gael ei leihau o 19.9 y cant i 18 y cant, a chytunodd y gallai’r Adran lywio barn y Comisiwn ac Ymddiriedolwyr y Bwrdd pan ymgynghorir â hwy fel rhan o gamau nesaf yr Adran.

§    Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid am effaith debygol 36 o Aelodau o’r Senedd ychwanegol ar Gynllun Pensiwn yr Aelodau, wedi i’r mater gael ei godi gyda’r Cadeirydd yn ystod sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Biliau Diwygio ar 11 Hydref.

 

</AI2>

<AI3>

3         Diweddariadau ar Adolygiad Thematig y Rhaglen Waith Strategol (9.30 - 10.00)

§    Cyflwynodd aelodau'r Bwrdd ddiweddariadau ar yr adolygiadau thematig sy'n cael eu cynnal fel rhan o Raglen Waith Strategol y Bwrdd.

§    Nododd Syr David Hanson (Arweinydd y Bwrdd o ran Ffyrdd o Weithio) fod cam cyntaf yr adolygiad thematig hwn yn tynnu tua’i derfyn. Rhan o’r gwaith ar gyfer y cam cyntaf hwn oedd adolygu’r lwfansau a ddarperir i’r Aelodau a’u staff cymorth mewn perthynas â gweithio gartref a gweithio hybrid, a chyhoeddir diweddariad ar hyn yn fuan.

Cam i’w gymryd:

§    Y Bwrdd i anfon nodyn at yr Aelodau a’u staff cymorth i godi ymwybyddiaeth o’r darpariaethau sydd ar waith i gefnogi gweithio gartref a gweithio hybrid.

 

</AI3>

<AI4>

4         Diweddariad ar yr Adolygiad Thematig Symleiddio (10.00 - 10.30)

§    Trafododd y Bwrdd bapur ar y gwaith o symleiddio’r adolygiad thematig hyd yma, a’r penderfyniadau y mae angen i’r Bwrdd eu gwneud yn hyn o beth.

§    Trafododd y Bwrdd y graddau yr oedd testun esboniadol yn briodol ar gyfer ei gynnwys yn y Penderfyniad.

§    Mae’r Bwrdd yn cytuno bod gwaith yn parhau, yn y gobaith y gellir drafftio opsiynau ar gyfer Penderfyniad wedi’i symleiddio ymhellach ar gyfer y Seithfed Senedd. Gofynnodd y Bwrdd am gael parhau â deialog ymchwiliol pellach gyda’r Comisiwn ar y mater hwn.

 

</AI4>

<AI5>

5         Diweddariad Economaidd (10.45 - 12.00)

§    Cafodd y Bwrdd ddiweddariad llafar gan Martin Jennings (Pennaeth Uned Craffu Ariannol y Tîm Ymchwil) ar yr hinsawdd economaidd bresennol a’r rhagolygon, gan gynnwys dyfarniadau cyflog yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Trafododd y Bwrdd y goblygiadau posibl i'r Penderfyniad.

§    Cytunodd y Bwrdd i ystyried y chwyddiant a’r cyfraddau llog uchel fel rhan o’i ystyriaeth o’r cymorth ariannol i staff cymorth, gan gynnwys addasiadau cyflog ar gyfer 2024-25.

Cam i’w gymryd:

§    Bydd y Bwrdd yn ystyried y dewisiadau sydd ar gael i gefnogi staff cymorth drwy’r argyfwng costau byw parhaus, a hynny yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd.

 

</AI5>

<AI6>

6         Ystyriaeth Gychwynnol o Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2024/25 (12.00 - 13.15)

§    Adolygodd y Bwrdd y cwmpas arfaethedig ar gyfer yr ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol.

§    Trafododd y Bwrdd nifer o gwestiynau allweddol yn ymwneud â’r materion sydd i’w cynnwys yn yr ymgynghoriad, a chytunodd y dylid darparu rhagor o wybodaeth cyn bod modd iddo wneud penderfyniad yn y cyfarfod ym mis Tachwedd.

§    Nododd y Bwrdd hefyd y byddai angen i unrhyw benderfyniad gael ei osod yng nghyd-destun y cyfyngiadau cyllidebol ehangach y mae’r Comisiwn a Chronfa Gyfunol Cymru yn eu hwynebu. 

Camau i’w cymryd:

§    Cytunodd y Bwrdd â chwmpas a dull gweithredu yr ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol.

§    Cytunodd aelodau’r Bwrdd ar amserlen yr ymgynghoriad ar yr Adolygiad Blynyddol, gyda’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 15 Rhagfyr a 26 Ionawr, gyda thrafodaeth ar yr ymatebion yng nghyfarfod y Bwrdd ar 22 Chwefror. Byddai unrhyw newidiadau i’r Penderfyniad yn cael eu cytuno ar 14 Mawrth 2024. 

§    Bydd Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd yn trefnu cyfarfod â’r Penaethiaid Staff a Chynrychiolwyr Undeb yn dilyn cyfarfod y Bwrdd ar 30 Tachwedd, i ddarparu cyfeiriad clir ar y newidiadau i’r Penderfyniad a gynigir fel rhan o’r ymgynghoriad.

 

</AI6>

<AI7>

7         Tâl Cadeiryddion - Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru a'r Pwyllgor Biliau Diwygio (14.00 - 14.25)

§    Trafododd y Bwrdd y penderfyniad y mae’n ofynnol iddo ei wneud ar y cyflog ychwanegol sydd i’w dalu i Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ac i Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio.

§    Nododd y Bwrdd y wybodaeth am raglen waith y Pwyllgor ac am gyfrifoldebau cyd-Gadeiryddion, a nododd mai rolau cyd-gadeirio yw’r rhain, yn hytrach na rolau ‘rhannu swyddi’. Nododd y Bwrdd hefyd y bydd gwaith y Pwyllgor Covid yn gymhleth, yn hollol newydd ac o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd.

§    Nododd y Bwrdd y byddai taliad cyflogau Cadeiryddion Pwyllgor yn gymwys o’r dyddiad yr etholir yr Aelod yn Gadeirydd.

§    Nododd y Bwrdd fod un o gyd-Gadeiryddion y Pwyllgor Covid, a Chadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio, eisoes yn cael cyflog ychwanegol.

§    Nododd y Bwrdd yr amgylchiadau eithriadol a arweiniodd at Gomisiwn y Senedd yn penodi cyd-Gadeiryddion ar gyfer Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru. Bu’r Bwrdd hefyd yn trafod cost ganlyniadol y penderfyniad hwn i’r pwrs cyhoeddus yn sgil bod cyfran uchel o’r Aelodau yn dal swyddi ychwanegol yn y Senedd.

Camau i’w cymryd:

§    Cytunodd y Bwrdd ar lefel gyflog uwch ar gyfer pob cyd-Gadeirydd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ac i Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio

§    Cytunodd y Bwrdd y bydd y taliad o ran cyflogau deiliaid swyddi ychwanegol, ble bo’n briodol, yn weithredol o’r dyddiad yr etholir y Cadeiryddion.

§    Y Bwrdd i ysgrifennu at y Llywydd i roi gwybod am ei benderfyniad.

 

</AI7>

<AI8>

8         Papur Diweddaru (14.25 - 14.40)

§    Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar amrywiol faterion sy'n berthnasol i'w waith a hefyd ei flaenraglen waith.

§    Nododd y Bwrdd y diweddariad ar y rhwymedi McCloud ar gyfer Cynllun Pensiwn yr Aelodau, a recriwtio Cadeirydd newydd i’r Bwrdd Pensiynau.

§    Cafodd y Bwrdd ddiweddariad gan y Tîm Cymorth Busnes i Aelodau a chaiff ddiweddariad maes o law ynghylch dychwelyd cyfarpar ac asedau.

§    Cafodd y Bwrdd ddiweddariad gan Syr David Hanson ar yr ymweliadau â swyddfeydd etholaethol a gynhaliwyd ganddo ym mis Medi, pan fu’n ymweld â’r Aelodau a’u staff cymorth.

§    Croesawodd y Cadeirydd Natasha Davies (Uwch-ymchwilydd) i’r tîm a nododd strwythur newydd y tîm o ran Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.

§    Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth a ddaeth i law gan y Prif Weithredwr a’r Clerc yn ymwneud â chynllunio cyllidebau ar gyfer 2024-25.

§    Trafododd y Bwrdd yr adroddiad cyllidebol diweddaraf ar gyfer mis Hydref 2023 gyda Lisa Bowkett (y Pennaeth Cyllid Dros Dro) a Craig Griffiths (Pennaeth Cymorth Busnes ac Ymgysylltu â’r Aelodau).

 

</AI8>

<AI9>

9         Papur i'w nodi: Diweddariad Blynyddol gan Dîm Diogelwch y Senedd

§    Nododd y Bwrdd y papur diweddaru blynyddol gan Dîm Diogelwch y Senedd.

 

Unrhyw faterion eraill

§    Rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r Bwrdd am y cyfarfodydd sydd i’w cynnal ym mis Hydref gyda’r Llywydd a Chadeirydd yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA).

§    Dywedodd y Cadeirydd y cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 30 Tachwedd, a chynhelir cyfarfodydd y Grŵp Cynrychiolwyr a sesiynau galw heibio ar 29 Tachwedd.

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.             FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.             FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1             FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2             FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>